Lawnsio WordPress Cymru!
Yn ddiweddar mae Cymru wedi profi rhyw chwildro dechnegol reit sylweddol – ond wrth gwrs mae tipyn o ffordd i fynd eto cyn fod Cymru yn cael ei weld i fod yn leoliad gwych ar gyfer busnesau digidol. Er hyn mae llawer o gymdeithasau a grwpiau technegol wedi codi a datblygu (e.e. Haciaith, Hedyn a.y.y.b) sydd yn clodfori y Cymru digidol a hybu cyfathrebu ac ymwybyddiaeth rhwng blogwyr Cymru.
Blogiau Cymraeg
Ar restr Hedyn o flogiau Cymru – mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn defnyddio WordPress fel eu system rheoli cynnwys – yn debygol oherwydd yr hawster a chyflymder cychwyn arnynt. Mae’r rhan fwyaf wedi mynd lawr y llwybr o wasanaeth o WordPress wedi ei letya (ar WordPress.com) yn hytrach na’r opsiwn hunan-letya (WordPress.org). Yn ogystal a hyn, mae llawer o asiantaethau a busnesau dylunio a datblygu gwe (e.e. Gwe Cambrian Web!) sydd yn arbenigo mewn WordPress ar gyfer eu cleientiaid.
Golyga hyn bod ystod eang o ddefnyddwyr, dylunwyr a datblygwyr WordPress yng Nghymru – ond dim modd iddynt gyfathrebu a rhannu newyddion am y meddalwedd. Felly dyma greu un! Fel rhan o Thema.Cymru – dyma gymuned WordPress Cymru ar Facebook – ymunwch nawr a chyfrannwch i roi Cymru ar fap WordPress!