Cychwyn Cymdeithas WordPress Cymru

Lawnsio WordPress Cymru!

WordPress Cymru FacebookYn ddiweddar mae Cymru wedi profi rhyw chwildro dechnegol reit sylweddol – ond wrth gwrs mae tipyn o ffordd i fynd eto cyn fod Cymru yn cael ei weld i fod yn leoliad gwych ar gyfer busnesau digidol. Er hyn mae llawer o gymdeithasau a grwpiau technegol wedi codi a datblygu (e.e. Haciaith, Hedyn a.y.y.b) sydd yn clodfori y Cymru digidol a hybu cyfathrebu ac ymwybyddiaeth rhwng blogwyr Cymru.

Blogiau Cymraeg

Ar restr Hedyn o flogiau Cymru – mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn defnyddio WordPress fel eu system rheoli cynnwys – yn debygol oherwydd yr hawster a chyflymder cychwyn arnynt. Mae’r rhan fwyaf wedi mynd lawr y llwybr o wasanaeth o WordPress wedi ei letya (ar WordPress.com) yn hytrach na’r opsiwn hunan-letya (WordPress.org). Yn ogystal a hyn, mae llawer o asiantaethau a busnesau dylunio a datblygu gwe (e.e. Gwe Cambrian Web!) sydd yn arbenigo mewn WordPress ar gyfer eu cleientiaid.

Golyga hyn bod ystod eang o ddefnyddwyr, dylunwyr a datblygwyr WordPress yng Nghymru – ond dim modd iddynt gyfathrebu a rhannu newyddion am y meddalwedd. Felly dyma greu un! Fel rhan o Thema.Cymru – dyma gymuned WordPress Cymru ar Facebook – ymunwch nawr a chyfrannwch i roi Cymru ar fap WordPress!

http://facebook.com/WordPressCymru

Rhoi’r amlieithrwydd yn greiddiol…

Mae Thema yn cael ei greu er mwyn galluogi unigolion i greu gwefannau amlieithog eu hunan, gyda’r gobaith o symleiddio cyhoeddi cynnwys digidol yn Gymraeg. Gall hefyd, drwy gael ei gyfieithu, alluogi amlieithrwydd tu hwnt i’r deuawd arferol o Gymraeg/Saesneg – a chael gwefannau Cymraeg/Basgeg, Cymraeg/Catalaneg, ag yn y blaen.

Erbyn hyn rydw i wedi rhoi’r elfen sylfaenol o ddwyieithrwydd yn rhan o’r thema. Mae’n gweithio mewn ffordd digon syml – drwy orfodi llwytho yr ategyn Polylang gan Chouby  – sydd yn gwneud yr holl bethau technegol sydd yn galluogi amlieithrwydd. Bydd Thema yn gorfodi hyn wedi iddo gael ei weithredu o fewn WordPress.

Yn Polylang, caiff y tudalenau/cofnodion eu “marcio” yn y bas data gyda’r iaith, a bydd y defnyddwyr yn dynodi pa dudalennau eraill sydd yn cyfateb i rhain yn yr ieithoedd eraill. Dwi’n gobeithio i Thema ychwanegu haen o ddefnyddiadwyedd wedi ei seilio ar Polylang fel y bydd yn ei gwneud yn llawer haws i reoli y wefan amlieithog. Ymysg y defnyddiadwyedd sydd yn fy nghynllun, dyma rai:

  • Gweld faint o dudalenau/cofnodion sydd heb gael iaith wedi ei osod
  • Gweld faint o dudalennau/cofnodion sydd heb fersiwn gyfarpar yn yr ieithoedd arall
  • Adio iaith newydd yn hawdd

A oes unrhyw ddefnyddiadwyedd hoffech chi ei weld? Gadewch i mi wybod yn y sylwadau 🙂

Prosiect Thema Amlieithog i Gymru

Wel – dyma gychwyn ar brosiect hynod o ddiddorol arall!

Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i ennill grant gan Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith thema ar gyfer WordPress sydd yn galluogi defnyddwyr i gyhoeddi cynnwys yn ddwyieithog yn hawdd, a sydd yn hygyrch.

Bydd tri thema yn cael eu creu yn gyntaf, ar gyfer:

  • Busnesau/Elusennau
  • Blogiau personol
  • Gwefannau e-werthiant

Y gobaith (or-obeithiol, efallai?) yw i ddogfennu sut y mae’r prosiect yn dod yn ei flaen drwy gyfres o flogiau byr fel hyn.

Y Pwrpas

Pwrpas y prosiect o fy ochor i yw i allu rhoi y gallu i gyhoeddi yn aml-ieithol i unrhyw un, a gwneud yn siwr fod y cynnwys hynny yn hygyrch (gellir ei defnyddio yn rhwydd er unrhyw anabledd). Mae’n gyfle felly i fusnes, elusen, siop ar y we, unigolion a blogiau allu cael dyluniad gwefan fodern sydd yn rhoi y gallu o gyhoeddi yn ddwyieithog yn greiddiol yn eu gwefan.

Rydw i yn rhedeg busnes dylunio a datblygu gwe o’r enw Gwe Cambrian Web – ag ein amcan busnes yw “Cael Cymru a’r Gymraeg arlein” – rydw i yn frwdfrydig iawn dros allu cynyddu faint o gynnwys Cymraeg sydd arlein – yn enwedig y cynnwys a ellir ei chwilio drwy beiriannau gwe megis Google.

O ran y Llywodraeth, eu hamcanion ar gyfer y prosiect yw i gael mwy o Gymraeg arlein, amcan y rydan ni yn frwdfrydig amdano hefyd.

Ffynhonnell Agored

Rydw i wedi penderfynu ei agor i’r gymuned fel prosiect agored/open-source. Golyga hyn wrth gwrs y bydd ar gael am ddim i unrhyw un ei ddefnyddio unwaith y bydd gofynnion y grant wedi eu cyflawni, ond dwi yn wir gobeithio gallu creu cymuned o ddatblygwyr gwe WordPress Cymraeg sydd yn frwdfrydig dros ddefnyddio’r dechnoleg yma yng Nghymru ar gyfer hybu Cymru a’r Gymraeg arlein.