Prosiect Thema Amlieithog i Gymru

Wel – dyma gychwyn ar brosiect hynod o ddiddorol arall!

Yn ddiweddar rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i ennill grant gan Llywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith thema ar gyfer WordPress sydd yn galluogi defnyddwyr i gyhoeddi cynnwys yn ddwyieithog yn hawdd, a sydd yn hygyrch.

Bydd tri thema yn cael eu creu yn gyntaf, ar gyfer:

  • Busnesau/Elusennau
  • Blogiau personol
  • Gwefannau e-werthiant

Y gobaith (or-obeithiol, efallai?) yw i ddogfennu sut y mae’r prosiect yn dod yn ei flaen drwy gyfres o flogiau byr fel hyn.

Y Pwrpas

Pwrpas y prosiect o fy ochor i yw i allu rhoi y gallu i gyhoeddi yn aml-ieithol i unrhyw un, a gwneud yn siwr fod y cynnwys hynny yn hygyrch (gellir ei defnyddio yn rhwydd er unrhyw anabledd). Mae’n gyfle felly i fusnes, elusen, siop ar y we, unigolion a blogiau allu cael dyluniad gwefan fodern sydd yn rhoi y gallu o gyhoeddi yn ddwyieithog yn greiddiol yn eu gwefan.

Rydw i yn rhedeg busnes dylunio a datblygu gwe o’r enw Gwe Cambrian Web – ag ein amcan busnes yw “Cael Cymru a’r Gymraeg arlein” – rydw i yn frwdfrydig iawn dros allu cynyddu faint o gynnwys Cymraeg sydd arlein – yn enwedig y cynnwys a ellir ei chwilio drwy beiriannau gwe megis Google.

O ran y Llywodraeth, eu hamcanion ar gyfer y prosiect yw i gael mwy o Gymraeg arlein, amcan y rydan ni yn frwdfrydig amdano hefyd.

Ffynhonnell Agored

Rydw i wedi penderfynu ei agor i’r gymuned fel prosiect agored/open-source. Golyga hyn wrth gwrs y bydd ar gael am ddim i unrhyw un ei ddefnyddio unwaith y bydd gofynnion y grant wedi eu cyflawni, ond dwi yn wir gobeithio gallu creu cymuned o ddatblygwyr gwe WordPress Cymraeg sydd yn frwdfrydig dros ddefnyddio’r dechnoleg yma yng Nghymru ar gyfer hybu Cymru a’r Gymraeg arlein.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *